Mae Beca yn gwmni teledu sy'n cynhyrchu rhaglenni dogfen o'r safon uchaf i'r prif ddarlledwyr yng Nghymru.

Fe'i sefydlwyd yn 1997 gan Helen Williams-Ellis gyda'r nod o greu rhaglenni uchelgeisiol, cofiadwy a difyr.

Prif gyfres y cwmni am flynyddoedd oedd Great Welsh Roads i ITV1 Wales gyda'r cyflwynydd a'r sgwennwr poblogaidd Mike Parker. Hon oedd un o gyfresi mwya llwyddiannus Cymru am flynyddoedd.

Cywaith diddorol arall gyda Mike oedd y gyfres radio i Radio Wales yn 2007,
The Trouble With Tourists, chwe rhaglen yn olrhain hanes y diwydiant twristiaeth yng Nghymru gyda sylwadau bachog gan gyfrannwyr megis Jim Perrin.

Mae Helen yn gweithio hefyd fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr llawrydd i gwmniau a darlledwyr amrywiol: prosiect diweddar oedd dogfen awr i'r gyfres
O Flaen Dy Lygaid, BBC Cymru Yr Uchel Siryf .

Newydd ei gorffen i'r gyfres Wynebau Newydd S4C mae DJ yn Beijing , stori am fachgen ifanc o Fangor sy'n gweithio fe DJ a hyrwyddwr clybiau nos yn un o ddinasoedd mwya' cyffrous y byd.

 

Yn Saesneg / In English