Wynebau Newydd - DJ yn Beijing
S4C

DJ, hyrwyddwr clybia'nos, cymeriad! : ydych chi'n barod i weld wyneb
(newydd) ffres ar deledu Cymraeg? Gawn ni felly gyflwyno Marek Griffith aka
DJ Marek, o Fangor yn wreiddiol.

(Mae egni a bwrlwm Marek yn amlwg wrth iddo'n tywys ar daith wallgo trwy
glybiau nos Beijing, o'r clwb y mae'n gyd-berchennog YCHWANEGU"R GAIR arno
i swbwrbia lle mae'n llogi fflat am £50 y mis.) Dylai ddarllen fel hyn.

Mae egni a bwrlwm Marek yn amlwg wrth iddo'n tywys ar daith wallgo trwy
glybiau nos Beijing, o'r clwb y mae'n gyd-berchennog arno i swbwrbia lle
mae'n llogi fflat am £50 y mis.

Yn gefndir i'r cyfan, trac cerddorol amrywiol- o Jamie Woon i'r Fun lovin'
Criminals i Eyerer a Koletzki - yn creu clytwaith lliwgar a swnllyd o ddinas
a gwlad sy'n bell iawn o'r ystrydebau arferol.

Dyma'r China go iawn. Clybiau fyddai ddim allan o le yn Llundain, adeiladau
sy'n cymharu'n ffarfriol a goreuon Efrog Newydd.

Dych chi ddim eisiau colli'r rhaglen hon!

Wynebau Newydd: DJ yn Beijing
Nos Fawrth, 28 Ebrill 2009, 8.25pm, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Hefyd, nos Sul, 3 Mai, 10.20pm, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin
a nos Lun 4 Mai 11.15pm