Cecily - A Personal Portrait

Dathliad o fywyd a gwaith un o sylfaenwyr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

Ym 1928 sefydlwyd cangen Sir Gaernarfon o Ymgyrch Diogleu Cymru Wledig gan wraig a aned ar gyrion Llundain. Ei henw oedd Cecily Williams-Ellis ac roedd hi'n chwaer yng nghyfraith i'r pensaer enwog Clough Williams-Ellis o Bortmeirion.

Yn 2008 gofynnwyd i Helen Williams-Ellis draddodi sgwrs am Cecily i nodi'r achlysur. Gan nad oedd Helen erioed wedi cyfarfod nain ei gwr Jonathan, penderfynodd yn lle hynny lunio ffilm fyddai'n cyfuno lluniau o archif y teulu gyda lluniau dyfrlliw a wnaed gan Cecily ei hun. Plethwyd y cyfan gyda cyfweliadau ac atgofion meibion Cecily, Roger, Owen a Richard Williams-Ellis.

Golygwyd y cyfan yn Barcud gan Trystan Lewis.

Dangoswyd y ffilm yn Neuadd Hercules Portmeirion ar y 3ydd o Orffennaf 2008 a cafodd dderbyniad gwresog gyda llu o gyfoedion Cecily yno i rannu eu hatgofion hwythau o wraig weithgar a phenderfynol iawn.

Erthygl Richard Williams-Elis